Y Pwyllgor Busnes |
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 3 Mawrth 2015 |
|
|||
Amser: |
08.30 – 08.40 |
|
|||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Y Fonesig Rosemary Butler (Cadeirydd) Paul Davies Jane Hutt Elin Jones Aled Roberts |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Aled Elwyn Jones (Clerc)
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding AC, Y Dirprwy Lywydd Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Dros Dro Gwasanaethau’r Comisiwn Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
||||
1 Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2 Cofnodion y cyfarfod blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi.
3 Trefn Busnes
3.1 Busnes yr Wythnos Hon
Cafodd y Pwyllgor y wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth am y newidiadau i Fusnes y Llywodraeth ar gyfer dydd Mawrth. Gofynnodd yr Aelodau pam y cafodd datganiad y Gweinidog Adnoddau Naturiol ar Newid yn yr Hinsawdd ei dynnu yn ôl.
Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai’r pleidleisiau ar bob eitem o fusnes ac eithrio'r ddadl Cyfnod 3 yn cael eu cynnal cyn cychwyn trafodion Cyfnod 3 ddydd Mawrth, ac y byddai pob pleidlais mewn perthynas â'r Bil Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) yn cael ei chynnal yn ystod trafodion Cyfnod 3.
Rhoddodd y Llywydd wybod i'r Rheolwyr Busnes ei bod yn bwriadu atal y trafodion ar gyfer egwyl o 10 munud cyn dechrau ar drafodion Cyfnod 3.
3.2 Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Nododd y Pwyllgor Busnes Amserlen Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3.3 Amserlen Busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn y busnes a chytunodd i amserlennu’r eitemau a ganlyn:
Dydd Mercher 25 Mawrth 2015
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i’r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
4 Pwyllgorau
4.1 Llythyr oddi wrth Gadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)
Ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol at y Pwyllgor Busnes yn gofyn am estyniad i'r terfyn amser ar gyfer ystyried y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) yng Nghyfnod 1 fel y gallai glywed mwy o dystiolaeth.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar y cynnig i ymestyn y terfynau amser ar gyfer cwblhau trafodion Cyfnod 1 o 10 Ebrill 2015 i 8 May 2015 ac ar estyniad cysylltiedig i’r Pwyllgor gwblhau unrhyw drafodion posibl yng Nghyfnod 2 o 5 Mehefin 2015 i 17 Gorffennaf 2015.
4.2 Papur i'w nodi - Llythyr gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Amser cyfarfod estynedig
Nododd y Rheolwyr Busnes fwriad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i ddechrau rhai cyfarfodydd yn gynharach na’r amser arferol, sef 09:00, er mwyn cwblhau ymchwiliad yr oedd y Pwyllgor wedi cytuno ei gynnal cyn y Pasg.
Unrhyw Fater Arall
Dywedodd Gweinidog Busnes y Llywodraeth wrth Reolwyr Busnes fod posibiliad y byddai Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn cael ei drefnu ar gyfer dadl yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 17 Mawrth ar y Bil Busnesau Bach, Menter a Chyflogaeth mewn perthynas â pheidio â gwahaniaethu yn erbyn chwythwyr chwiban yn y GIG. Bydd y Llywodraeth yn cyflwyno papur ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol i'r Pwyllgor Busnes ei ystyried yr wythnos nesaf.